Adroddiad drafft
CLA320 - Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r rheoliadau drafft hyn yn cynnwys llawer o’r manylion ynghylch sut bydd y cynllun sgorio hylendid bwyd newydd a sefydlwyd yng Nghymru gan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”) yn gweithredu yng Nghymru.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
Dyma’r gyfres gyntaf o reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf. Maent yn angenrheidiol er mwyn rhoi effaith lawn i’r cynllun sgorio hylendid bwyd statudol newydd a sefydlwyd gan y Ddeddf. Maent yn darparu ar gyfer materion gweinyddol technegol yn bennaf, fel ffurf y sticer a’r ffurflenni sydd i’w defnyddio i wneud apêl neu gais am ailsgorio, ond maent hefyd yn ymdrin â materion mwy sylweddol, fel darparu ar gyfer rhoi sgôr yn seiliedig ar arolygiadau a wnaed cyn cychwyn y Ddeddf, a phennu’r categorïau o sefydliadau sy’n esempt rhag eu sgorio.
Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Hydref 2013